Cyllid & Thollau EM

Methu ag anfon cod

Y rheswm mwyaf cyffredin am statws 'methu ag anfon' yw nad yw'r cais wedi pasio gwiriadau gwireddu pellach Cyllid a Thollau EM (CThEM) gan nad yw rhai o fanylion y cleient a nodwyd yn cyd-fynd â'r manylion sydd gan CThEM. Dylech wirio'r manylion a nodwyd, yn enwedig y cod post, gyda'ch cleient a'i gynghori i hysbysu ei swyddfa dreth ynglŷn ag unrhyw newidiadau. Bydd yn rhaid i chi ganiatáu amser i'r manylion hyn gael eu diweddaru cyn y gallwch wneud cais newydd am awdurdod. Fel eithriad, mae'n bosib na fydd gan CThEM gyfeiriad Asiant ar eich cyfer chi. Os mai dyma'r achos, cysylltwch â CThEM er mwyn rhoi eich manylion yna gwnewch gais iddynt ail-anfon y cod awdurdodi.